Psalms 67

Cân o ddiolch i Dduw

I'r arweinydd cerdd: Cân i gyfeiliant offerynnol. Salm.

1O Dduw, dangos drugaredd aton ni a'n bendithio ni.
Bydd yn garedig wrthon ni.

 Saib
2Wedyn bydd pawb drwy'r byd yn gwybod sut un wyt ti;
bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti'n gallu achub.
3Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw;
bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
4Bydd y cenhedloedd yn dathlu ac yn gweiddi'n llawen,
am dy fod ti'n barnu'n hollol deg,
ac yn arwain cenhedloedd y ddaear.

 Saib
5Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw;
bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
6Mae'r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni!
O Dduw, ein Duw, dal ati i'n bendithio.
7O Dduw, bendithia ni!
Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd
yn dy addoli.
Copyright information for CYM